Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y cyfarfod: |
|
|
Amser y cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (231)v3 |
1 Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg a Sgiliau (45 munud) Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.
|
2 Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth (45 munud) Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.
|
3 Cynnig i gymeradwyo Cyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2015/16 (30 munud) NDM5621 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.16:
Yn cytuno ar gyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2015-16, fel y pennir yn Nhabl 1 "Cynigion Cyllideb Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2015-16", a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 12 Tachwedd 2014 a'i bod yn cael ei hymgorffori yn y Cynnig Cyllidebol Blynyddol o dan Reol Sefydlog 20.26(ii).
Dogfennau Ategol:
Dogfen Cyllideb Comisiwn y Cynulliad
|
4 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig (60 munud) NDM5624 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod y cyfraniad hanfodol y mae pobl hŷn yn ei wneud i les cymdeithasol ac economaidd Cymru a phwysigrwydd sicrhau bod hawliau pobl hŷn yn cael eu hadlewyrchu mewn polisïau a deddfwriaeth Llywodraeth Cymru.
2. Yn nodi cyhoeddi'r ddogfen 'Lle i'w Alw'n Gartref', adolygiad gan y Comisiynydd Pobl Hŷn o ofal pobl hŷn sy'n byw mewn cartrefi gofal yng Nghymru.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda'r Comisiynydd Pobl Hŷn i fwrw ymlaen â'r argymhellion yn yr adolygiad.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i asesu a nodi gofynion hyfforddiant sylfaenol ar gyfer gweithwyr cartref gofal sy'n ymgorffori egwyddorion urddas a pharch.
Mae'r ddogfen 'Lle i'w Alw'n Gartref' ar gael yn:
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn nodi bod cyfran gynyddol o bobl yng Nghymru dros 65 oed ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod cynllunio ar gyfer iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yn rhoi ystyriaeth i hyn.
Gwelliant 2 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael ag amodau a chyflog isel a gwella cyfleoedd hyfforddiant a gyrfa i weithwyr mewn cartrefi gofal.
|
5 Dadl Plaid Cymru (60 munud) NDM5622 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu bod costau cyfleustodau yn annerbyniol o uchel ac yn nodi'r anawsterau penodol y mae hyn yn eu hachosi ar gyfer cymunedau gwledig, busnesau, a'r rhai ar incwm isel.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cynllun gweithredu i liniaru costau cyfleustodau uchel.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn nodi'r gronfa 'Cheaper Energy Together' a lansiwyd gan Adran Llywodraeth y DU ar Ynni a Newid Hinsawdd (DECC) i gefnogi newid cyflenwyr ar y cyd, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda DECC i hyrwyddo newid cyflenwyr ar y cyd ledled Cymru i leihau biliau defnyddwyr.
Mae manylion y gronfa 'Cheaper Energy Together' ar gael yn:
https://www.gov.uk/collective-switching-and-purchasing (Saesneg yn unig)
Gwelliant 2 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnwys pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn galw ar Lywodraeth y DU i rewi prisiau ynni.
Gwelliant 3 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i edrych ar gostau cysylltiad â'r grid a'u heffaith ar filiau cyfleustodau, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig.
Gwelliant 4 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno sylwadau i'r Grid Cenedlaethol i sicrhau ei fod yn edrych ar Gymru yn ei chyfanrwydd wrth gyfrifo sut y mae trydan yn cael ei allforio pan gaiff cyfrifiadau prisio eu gwneud er mwyn sicrhau gwerth am arian i ddefnyddwyr.
Gwelliant 5 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried pa mor agored i gynnydd mewn prisiau y mae cwsmeriaid nad ydynt ar y grid, lle mae opsiynau ar gyfer newid yn gyfyngedig, neu lle nad yw marchnadoedd yn cael eu rheoleiddio.
|
6 Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru (60 munud) NDM5623 Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod bod pobl drawsryweddol yng Nghymru ymhlith y rhai mwyaf agored i arwahanrwydd cymdeithasol a rhagfarn.
2. Yn nodi bod y ddarpariaeth o wasanaethau ar gyfer y gymuned drawsryweddol yng Nghymru yn annigonol mewn nifer o feysydd, gan gynnwys cyflogaeth, hyfforddiant, gofal iechyd a thai.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) pennu Gweinidog i gymryd cyfrifoldeb am y materion y mae'r gymuned drawsryweddol yn eu hwynebu;
b) llunio cynllun gweithredu ar gyfer canfod rhagfarn sefydliadol, gwella mynediad at wasanaethau cyhoeddus a mynd i'r afael â stigma cymdeithasol, aflonyddu a bwlio ar gyfer y grŵp hwn; ac
c) adrodd yn ôl i'r Cynulliad o fewn 6 mis i'r dyddiad y caiff y Gweinidog ei benodi.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnwys is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 3:
"codi ymwybyddiaeth y cyhoedd o droseddau casineb yn erbyn pobl drawsryweddol, er mwyn annog dioddefwyr i roi gwybod am achosion o'r fath."
Gwelliant 2 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnwys is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 3:
"sicrhau bod pobl drawsryweddol sy'n dioddef troseddau casineb yn cael mynediad at wasanaethau cymorth cynhwysfawr a hawdd eu cyrraedd."
Gwelliant 3 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gweithio gyda grwpiau LGBT a Chomisiynwyr Heddlu a Throseddu i sicrhau bod yr heddlu yn cymryd troseddau casineb yn erbyn pobl drawsryweddol o ddifrif a bod dioddefwyr yn teimlo eu bod yn gallu rhoi gwybod am droseddau a'u bod yn cael eu cefnogi drwy'r broses cyfiawnder troseddol.
|
7 Cyfnod Pleidleisio
|
8 Dadl Fer - Gohiriwyd (30 munud) |
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 25 Tachwedd 2014